Elin Jones AS, y Llywydd
 Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

     

    


28 Mai 2020

 

Annwyl Lywydd a Gweinidog,

Dadl Arfaethedig: Blaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22, yn sgil Covid 19

Ysgrifennaf atoch i drafod y posibilrwydd y gallai’r Pwyllgor Cyllid gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y blaenoriaethau gwariant ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22 Llywodraeth Cymru, cyn toriad yr haf.

Mae'r Pwyllgor, yn y gorffennol, wedi mynegi ei bryder nad yw’r Senedd yn cael cyfle ffurfiol i drafod blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru a dylanwadu arnynt o bosibl, cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi. Y llynedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y gallai'r Pwyllgor Cyllid gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn dan arweiniad y Pwyllgor.

Cynhaliwyd dadl y Pwyllgor ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar 25 Medi 2019 ac roedd y cynnig yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd yn ein digwyddiad rhanddeiliaid yn Aberystwyth.

Er bod y Pwyllgor o’r farn bod y ddadl hyd yn oed yn bwysicach y llynedd o ystyried goblygiadau amseriad arfaethedig y gyllideb o ganlyniad i Brexit a’r Etholiad Cyffredinol, mae’r Pwyllgor wedi nodi’n flaenorol fod hyn yn rhywbeth y dylid ei hwyluso’n barhaus i roi’r cyfle i’r Aelodau ddylanwadu ar flaenoriaethau a dyraniadau’r Gyllideb yn gynharach yn y broses.  Mae'r Pwyllgor yn falch, felly, fod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallai dadl ar flaenoriaethau gwariant gael ei chynnwys yn amserlen y gyllideb ac yn nodi bod ei hymateb yn datgan:

“Rydym yn ymrwymedig i gefnogi'r gwaith o graffu ar ein cynigion cyllidebol mewn modd ystyrlon ac effeithiol. … Rydym yn croesawu'r cyfle i ystyried, ar y cyd â Phwyllgorau Busnes a Chyllid y Senedd, sut y gallai dadl ar flaenoriaethau gwariant gael ei chynnwys yn amserlen y gyllideb.”

 

 

 

Mae'n anochel y bydd Covid-19 yn effeithio ar y Gyllideb ddrafft eleni, a gallai Adolygiad o Wariant y DU, sydd wedi'i ohirio o fis Gorffennaf, effeithio arni eto. Er na fydd y Pwyllgor yn ymgymryd ag unrhyw waith ymgysylltu cyhoeddus eleni fel y byddai wedi gobeithio, byddwn yn ymgysylltu â’r cyhoedd ar-lein i glywed eu barn ynglŷn â’r hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei gynnwys yn ei blaenoriaethau gwariant. Gobeithiwn y gellir defnyddio’r wybodaeth hon i lywio dadl ar flaenoriaethau cyn toriad yr haf er mwyn iddo fod o fewn amserlen addas i Lywodraeth Cymru ei hystyried wrth lunio ei chyllideb ddrafft. Bydd Covid-19 yn cael effaith ar wariant cyhoeddus am flynyddoedd i ddod a chredwn fod cynnal y ddadl hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Senedd yn amlinellu’r hyn y mae'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ei gwariant arno dros y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn unol â hynny, mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno y dylai’r Pwyllgor Cyllid gynnal dadl.

Yn gywir,

Llyr Gruffydd AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.